top of page

Rossett Hall Wedding
Manon a Sbyd

Mae rhai straeon cariad yn dechrau yn y llefydd mwyaf annisgwyl. I Manon a Rhys (neu Spyd i bron pawb sy’n ei nabod o!), dechreuodd y stori ar 6 Mai 2017 mewn gêm agoriadol clwb rygbi yng Nghymru. Roedd Manon wedi dod lawr o’r Alban am y penwythnos, roedd Spyd yn chwarae dros dîm y dynion, ac erbyn diwedd y noson roedd rhywbeth arbennig wedi dechrau rhyngddyn nhw.

Am y ddwy flynedd wedyn, roedd hi’n fater o deithio i fyny ac i lawr yr M6 yn gyson wrth i’r ddau wneud i’r berthynas weithio er gwaethaf y pellter. Yn y diwedd, symudodd Manon i Bala, a’r gweddill yw hanes. Yna, wrth i’r cloc daro hanner nos ar Nos Galan yn Lerpwl, aeth Spyd i lawr ar un pen-glin a gofyn y cwestiwn mawr. Ac os gofynnwch chi i ni, roedd pob milltir o’r daith yn werth chweil.

Ymlaen wedyn i ddiwrnod eu priodas yng Ngwesty hyfryd Rossett Hall yn Wrecsam, ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel o’r dechrau i’r diwedd. Digon o chwerthin, cymeriadau mawr, a llond lle o bobl oedd wrth eu bodd yn dathlu gyda nhw. Yn syml, diwrnod gwych iawn.

Roedd hi’n fraint cael bod yno i ddal yr holl eiliadau arbennig ar lun ac ar ffilm. Manon a Spyd, diolch o galon am adael i ni fod yn rhan fach o’ch diwrnod mawr. 💛

Some love stories start in the most unexpected places. For Manon and Rhys (known to pretty much everyone as Spyd), it all began on 6th May 2017 at a rugby club opening match in Wales. Manon had travelled down from Scotland for the weekend, Spyd was playing for the men's team, and by the end of that evening, something had clicked.

What followed was two years of clocking up serious miles on the M6 as the two of them made it work across the distance, until Manon eventually made the move down to Bala. Then, at the stroke of midnight on New Year's Eve in Liverpool, Spyd popped the question. We'd say it was worth every motorway mile.

Fast forward to their wedding day at the beautiful Rossett Hall Hotel in Wrexham, and the energy was absolutely electric from start to finish. Laughter, big personalities, and a room absolutely packed with people who were genuinely buzzing to be there celebrating with them. An absolute belter of a day.

We had the best time capturing every moment on both photo and film. Manon and Spyd, thank you for having us along for the ride! 💛

Manon and Sbyd - Wedding Highlights

Manon and Sbyd - Wedding Highlights

Manon and Sbyd | Wedding Feature Film

Manon and Sbyd | Wedding Feature Film

© Copyright 2026 Iain Yarwood Media

Wrexham, North Wales | info@iainyarwood.com07452 963308 

bottom of page